Skip to main content

Dechrau'n Deg Ceredigion - Grŵp Sêr Bychain - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o wasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn grwpiau.

Mae Sêr Bychain yn croesawu babanod o'u genedigaeth nes byddant yn 10 mis oed, a'u rhieni, i fwynhau sesiwn wythnosol o weithgareddau hwyliog ar gyfer babanod. Mae'n gyfle gwych i gyfarfod rhieni a babanod eraill ac i gymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog a chyffrous a gynigir gennym. Bydd babanod yn cael hwyl trwy archwilio, canu, treulio amser ar eu bol a chyfarfod babanod eraill.
Yn ystod yr 8 wythnos, byddwn yn archwilio'r materion canlynol;
• Chwarae synhwyraidd
• Straeon a chanu
• Chwarae blêr
• Basgedi trysor
• Diddyfnu – cael hwyl gyda bwyd
• Cwsg

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni a gofalwyr sydd â babanod o enedigaeth i 10 mis oed.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un sy'n byw yng Ngheredigion gysylltu â ni.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
    Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad



Dulliau cysylltu

Ffôn: 07966969711(Carys Thomas)

Ffôn: 01545 570881(Clic Ceredigion )

Ebost: dechraundeg@ceredigion.gov.uk

Gwefan hawdd ei ddeall: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymort(Dechrau'n Deg)

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

Llun - Gwener 9yb - 4:30yp

Back to top