Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r gwasanaeth yn cyflwyno dwy neges, ‘Paid Cyffwrdd – Dweud!’ ar gyfer disgyblion ieuengach a ‘Paid Yfed – Meddylia!’ ar gyfer disgyblion hŷn. Mae’r negeseuon hefyd yn cynnwys llinellau cyffuriau a fêpio. Mae’r holl sioeau wedi eu gosod i’r cwricwlwm cenedlaethol gydag adnoddau sy’n cynnwys y chwe ardal dysgu. Gall ysgolion ddewis i gael sioeau yn y Gymraeg, Saesneg, neu’n ddwyieithog. Mae’r holl berfformwyr yn rhai proffesiynol ac yn cynnwys consurwyr, tafleiswyr a storïwyr.