Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Torfaen yn bwynt mynediad canolog a chyfrinachol. Thrwyddo ceir gwybodaeth yn rhad ac am ddim a honno’n wybodaeth ddiduedd ar nifer o wasanaethau gofal o safon uchel ac am brisiau rhesymol i deuluoedd; hefyd geir wybodaeth am wasanaethau eraill sydd ar gael ym Môn i blant a phobl ifanc.
Ar y naill law rydym yn cadw gwybodaeth am yr holl wasanaethau gofal cofrestredig yn ein dalgylch ond hefyd ceisiwn sicrhau cymaint o wybodaeth ag y bo’n bosib am wasanaethau heb eu cofrestru.
Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell mathau penodol o wasanaeth; ein pwrpas yw rhoi gwybodaeth berthnasol am bob gwasanaeth fel cymorth i rieni a gofalwyr gwrdd ag anghenion yr unigolyn. Y nod yw darparu gwybodaeth gywir, sy’n gyfoes ac yn ddiduedd am y gwasanaethau gofal ac addysg gynnar i blant a phobl ifanc.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gwasanaeth sydd ar gael i rieni, gofalwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled Torfaen.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
- Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://torfaenfis.org.uk/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 0800 0196330
Ebost: fis@torfaen.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
X
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Amserau agor 9am – 5pm Dydd Llun i ddydd Iau a 9am – 4.30pm ar ddydd Gwener.