Grwpiau Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion - Gro Brain Babi - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Grwpiau Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion – sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol.
Mae GroBrain yn archwilio cyswllt, emosiynau y bydd rhieni a babanod yn eu profi, a datblygiad yr ymennydd. Dros y 4 wythnos, bydd y sawl a fydd yn mynychu'r cwrs yn ystyried materion a fydd yn cynnwys:
- Sut y dylanwadir ar yr ymennydd gan brofiadau a pherthnasoedd cynnar.
- Effaith straen ar ymennydd baban.
- Sut i fod yn ymwybodol o giwiau a signalau eich baban, gan ymarfer ffyrdd o gysuro baban.
- Sut i reoli emosiynau eich baban.
- Sut i feithrin cyswllt gyda'ch baban.
- Tylino babanod.
- Argymhellir eich bod yn mynychu'r bedair sesiwn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y rhaglen.
- Mae croeso i chi fynychu'r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy'n eich cynorthwyo wrth roi gofal i chi a gofal ar gyfer eich plentyn.
- Cyflwynir y rhaglen hyd at 8 rhiant.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Grŵp ar gyfer rhieni neu ofalwyr y mae ganddynt blant 0-12 mis oed yw GoBrain.

#Dechrau'nDegCeredigion #ODan5Ceredigion #CeredigionPaenting

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Anyone who has children

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Please contact for further details.