Cadw'n ddiogel ar-lein grwp ieuenctid - Ymunwch  ni! - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Cyfle anhygoel i ddweud dy ddweud.

Mae Llywodraeth Cymru yn ffurfio ei Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel arlein ar gyfer 2025-26. Rydyn ni'n chwilio am bymtheg o blant a phobl
ifanc 13-16 oed o bob cwr o Gymru, sy'n angerddol am faterion digidol ac a hoffai gael y cyfle i fod yn aelod o Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein – gan weithio ochr yn ochr â phobl ifanc eraill i gynghori a hysbysu Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni'n chwilio am bobl ifanc sy'n gallu ymrwymo i o leiaf 4 cyfarfod rhithwir 60 munud ac o leiaf un digwyddiad wyneb yn wyneb rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Mawrth 2026. Efallai y bydd rhywfaint o waith darllen ychwanegol i'w wneud cyn cyfarfodydd a chreu fideo byr ar ôl
cyfarfodydd hefyd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae angen i ddarpar gyfranwyr allu gwrando'n agored a pharchus ar safbwyntiau gwahanol a theimlo'n gyfforddus yn trafod syniadau a rhannu barn mewn man diogel. Mae'n gyfle anhygoel i ddweud dy ddweud wrth Lywodraeth Cymru a helpu i ddylanwadu ar y cynnwys
maen nhw'n ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ogystal â'r cyngor maen nhw'n ei roi i oedolion sy'n eu helpu nhw. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn lle cynhwysol, croesawgar a chefnogol lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau
gan unigolion sy'n rhan o grŵp ethnig neu grefyddol lleiafrifol, unigolion LHDTC+, pobl sy'n byw gydag anableddau, ffoaduriaid a mudwyr, yn ogystal â phobl ifanc mewn gofal maeth neu'r rhai sy'n profi digartrefedd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

I wneud cais, clicia ar y ddolen

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Rhaid i geisiadau gyrraedd erbyn 5 o'r gloch brynhawn Gwener 26 Medi 2025