Gofalwr Plant yw'r darparwr yma yn
Llandysul.
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag wythnosol i blant o oedran 0 misoedd a 12 blynyddoedd.
Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 10 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 10 lle.
Beth rydym ni'n ei wneud
Rwy’n ofalwr cofrestredig (2020) gyda phrofiad o godi fy mhlant Luc (1999), Ceindeg (2005) a Seth (2017). Ganddom gi cyfeillgar iawn o’r enw Ffranc sydd yn aros yn y gegin neu allan.
Fy nod fel gofalwr cofrestredig yw cynnig gwasanaeth gofalu sy’n caniatáu plant i ddysgu a datblygu mewn amgylchedd diogel a chartrefol. Bydd chwarae yn ganolog i ddatblygiad a dysgu eich plentyn a bydd ystod eang o weithgareddau a phrofiadau sy’n gweddu oedran a datblygiad yn cael ei gynnig.
Rydwyf hefyd yn cynnig gofal ar ôl ysgol i blant i fyny i 12 oed. Mae fy ngwasanaeth ar agor i bob plentyn a theuluoedd. Mae’r ardd yn ddiogel ac ar gael i blant chwarae. Mae’r parc lleol tua 800m i ffwrdd sy’n cynnwys llithren, siglen, ffrâm ddringo, offer plant bach a lle i chwarae gemau pêl. Byddwn hefyd yn mynychu grwpiau chwarae lleol, grŵp Ti a Fi, siopau a mynd ar deithiau.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
oed 1 mis i 12 mlwydd oed