Gwasanaeth Gofal Tymor Hir Bro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Gwasanaeth Gofal Tymor Hir Bro Morgannwg yn cynorthwyo pobl nad oes modd iddynt fodloni eu canlyniadau lles heb gael gofal a chymorth. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
Mae'r Tîm Gwaith Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl yn y gymuned a'u teuluoedd er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu canlyniadau lles. Gallai hyn gynnwys darparu neu hwyluso cymorth ar ffurf gwaith cymdeithasol, gofal yn y cartref, gwasanaethau dydd, gofal seibiant, yn ogystal â gofal nyrsio a gofal preswyl.
Mae'r Tîm Gofal Integredig yn gweithio gyda phobl y maent yn byw mewn cartrefi gofal er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir er mwyn bodloni eu hanghenion ac er mwyn osgoi anfon pobl i'r ysbyty yn ddianghenraid.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Oedolion y maent yn 18 oed neu'n hŷn ac y maent yn byw ym Mro Morgannwg – Y rhai y maent yn gofalu am oedolion y maent yn 18 oed ac yn hŷn (gofalwyr)
Mae'n fwy tebygol yr asesir bod angen gofal a chymorth arnoch:
• os ydych yn hŷn neu'n eiddil
• os oes gennych chi anabledd corfforol
• os ydych yn oedolyn hŷn gyda materion iechyd meddwl
• os nad oes modd i chi ddiogelu eich hun rhag niwed
Neu os ydych yn ofalwr sy'n cynorthwyo oedolyn neu oedolion y mae ganddynt anghenion gofal a chymorth.
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Ni chodir tâl arnoch am gymorth gwaith cymdeithasol ond efallai y gofynnir i chi gyfrannu at gost unrhyw Ofal a Chymorth y byddwch yn ei gael, yn ddibynnol ar Asesiad Ariannol. Byddwch yn cael eich hysbysu o'r holl daliadau trwy gydol y broses. - Depends
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae modd i gyfeiriadau gael eu gwneud gan unigolion, aelodau teuluol a ffrindiau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill trwy gysylltu â C1V.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
- Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/social_care/social_care.aspx
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01446 725100
Ebost: C1V@valeofglamorgan.gov.uk
Ymholiad gwe: http://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/social_care/social_care.aspx
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
X
Instagram
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
08.30-17:00 Llun-Iau a 16.30 ar ddydd Gwener