Deall eich babi - Cwrs ar-lein - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

‘Mae ‘Deall eich babi’ yn gwrs ar gyfer unrhyw un sy’n gofalu am fabi newydd: yn eich cefnogi chi a’r baban o’r enedigaeth hyd at 12 mis.

Mae’r cwrs yma’n darparu gwybodaeth am ddatblygiad ymennydd eich babi yn ogystal â’i ddatblygiad corfforol ac emosiynol. Mae’n dangos pa mor bwysig ydi’ch perthynas chi a’r babi ar gyfer datblygiad eich babi.

Mae’n integreiddio’r wybodaeth draddodiadol a geir yn ystod cwrs ôl-enedigol gyda dull newydd o ddatblygu perthynas gyda’ch baban. Mae’n edrych ar gwsg, bwydo, crio, chwarae a dewisiadau gofal plant.

Os ydych chi eisoes wedi cwblhau cwrs cynenedigol y Solihull Approach ar ddeall beichiogrwydd, efallai y byddwch chi'n cofio rhai o'r unedau am deimladau a chymorth ac efallai yr hoffech chi feddwl am hyn eto, rŵan bod eich baban wedi cyrraedd. Os ydych chi’n dad efallai bod rhannau o'r modiwl ar gyfer tadau yn gyfarwydd i chi, ond mae croeso i chi edrych ar yr unedau eto.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer HOLL ddarpar rieni, rhieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr unrhyw blant o’r cyfnod cyn-geni hyd at 18 mlwydd oed. Mae’r cwrs yn berthnasol i rieni pob plentyn, gan gynnwys y rhai ag anghenion arbennig, awtistiaeth, ADHD ac ati.

Byddem yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn sydd â therfyn amser. Mae’r cyrsiau AM DDIM i bob preswylydd Gogledd Cymru gyda’r codau mynediad NWSOL.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'r cyrsiau hyn am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru gyda chod mynediad NWSOL.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Am ymholiadau technegol, e-bostiwch solihull.approach@heartofengland.nhs.uk neu ffoniwch 0121 296 4448
o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm

Am unrhyw cwestiynau lleol cystyllwch yn Cymraeg neu Saesneg i nwsol@wales.nhs.uk