Meithrinfa Cwtsh y Clos Nursery - Meithrinfa Dydd

Mae'r adnodd hwn wedi'i rheoleiddio. (Mwy am Wasanaethau Rheoleiddiedig)

CSSIW Logo

   Mae'r darparwr wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu yn cyfatebol.

   Cafodd y darparwr arolygiad ar: 25/11/2021.

  Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag wythnosol i blant o oedran 0 misoedd a 7 blynyddoedd. Mae gennym argaeledd cyfyngedig

  Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 33 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 16 lle.


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Meithrinfa Cwtsh y Clos yn feithrinfa breifat yn Llanarthne, Caerfyrddin. Agorir y feithrinfa yn 2014 er mwyn cynnig gofal i blant rhwng 6 wythnos i 7 mlwydd oed. Prif amcan Meithrinfa Cwtsh y Clos yw addysgu plant am natur mewn amgylchedd heddychlon, gofalgar a chyfeillgar. Credwn wrth wneud hyn, bydd y plant yn dysgu am ryfeddodau natur. Mae'r feithrinfa yn un Cymraeg ac o ganlyniad rydym yn cynnal ein gweithgareddau trwy'r Gymraeg. Ond rydym hefyd yn cefnogi plant sydd yn dysgu'r iaith a pharu mamiaith y teulu.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Meithrinfa Cwtsh y Clos ar gyfer teuluoedd sydd moin amgylchedd naturiol a gofalgar i'w plant datblygu ynddo. Mae'r feithrinfa wedi cael ei lleoli ar tyddyn sydd tua 500 meter o'r farm deuluol. Mae'r plant yn cael cyfle i gofalu am defaid, gwartheg, ceffyl a ieir. Mae'r holl anifeiliaid yn dod i'r feithrinfa i bori yn ystod y flwyddyn ac felly mae'r plant yn cael cyfle i'w weld yn gyson. Mae gan y feithrinfa cwngingen mae'r plant yn gofalu amdano hefyd. Rydym gallu gofalu am blant sydd gyda anghenion arbennig neu gyda gofal deiategol er enghriafft alergeddau bwyd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae rhywun gallu defnyddio ein gwasanaeth trwy ffonio'r feithrinfa.


  Ein oriau agor ac argaeledd

Rydym ar gael: yr holl flwyddyn. Mae argaeledd cyfyngedig gyda ni.

Gallwn darparu gofal cofleidiol.. Rydym medru cynnig gofal cyfleidiol o ysgolion lleol a cylchoedd meithrin.

Dydd Llun 07:30 - 18:00
Dydd Mawrth 07:30 - 18:00
Dydd Mercher 07:30 - 18:00
Dydd Iau 07:30 - 18:00
Dydd Gwener 07:30 - 18:00

Rydym ar gau pob gwyl y banc ac am wythnos rhwng Nadolig a'r flwyddyn newydd. Ni fydd angen i chi talu am y dyddiadau yma gan bod y feithrinfa ar gau.

  Ein costau

  • £14.00 per Sesiwn - Clwb ar ol ysgol - addiwch cost trafnidiaeth o'r ysgol lleol
  • £58.00 per Diwrnod - Gofal o 8 y.b. tan 6y.h.
  • £40.00 per Hanner diwrnod - Gofal rhwng 8yb tan 12:30yp NEU 1yh tan 6yh

Mae gennym y costau ychwanegol canlynol :

  • £1.50 - We charge £1.50 per mile for collecting children from schools and playgroups.

Gosyniad o 10% i brodyr neu chwiorydd neu os ydy'r plentyn yn neud 5 diwrnod llawn yr wythnos.


  Am ein gwasanaeth

Yn ein lleoliad rydym yn siarad Dwyieithog.

Mae gan y darparwr fynediad i gefnogaeth a chyngor am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Rydym yn hapus i gofalu am blant gyda anghenion ychwanegol trwy cefnogaeth yr ymwelydd iechyd, tim camau bach a pobl profesiynnol arall.
Mae gan y darparwr wybodaeth weithiol o Ddeddf ADY a dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion
Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn gofalu am plant trwy ei anghenion unigol.
Mae staff wedi cael hyfforddiant perthnasol (at gefnogi plant ac anghenion dysgu ychwanegol/anabledd) yn y 2 flynedd diwethaf?
I enwi ychydig o gyrsiau hyfforddi y mae staff yn eu mynychu, rydym yn cael hyfforddiant lleferydd ac iaith yn rheolaidd, trawma plant, ymddygiad plant ac rydym yn feithrinfa sy'n ymwybodol o ASD.
Man tu allan
Mae gennym ardd fawr. Rydym yn mwynhau bod tu allan trwy gydol y flwyddyn.
A wnewch ddefnyddio cewynnau go iawn ar gyfer plant yn eich gofal?
Rhieni i darparu cewynnau a 'wipes'.
Ydy eich lleoliad yn rhydd o anifeiliaid anwes?
Mae gennym cwngingen a ieir sy'n byw tu allan ac amryw o anifeiliaid fferm yn y caeau cyfagos
Yn paratoi gwasanaethau 'Dechrau'n Deg'?
Yn cynnig darpariaeth Dechrau’n Deg wrth ochor darpariaeth arall
Yes
Yn cynnig y Cyfnod Sylfaen Meithrin (addysg ar gyfer plant tair i bedair oed) No
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o Gynllun Gofal Plant
Mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn talebau gofal plant
Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gofrestru gyda'r Cynllun Gofal Plant Di-dreth
Cysylltwch gyda Gwenllian am rhogor o wybodaeth.
Yn paratoi gofal ar frys/dros gyfnod byr? Yes
Yn gallu gofalu am blant ble nid Saesneg na Chymraeg yw eu prif iaith
Mae'r feithrinfa yn un Gymraeg, fodd bynnag, mae yna llawer o blant sydd yn mynychu ein gwasanaeth sydd yn siarad dwy neu tair iaith. O ganlyniad i hyn, rydym yn cefnogi unrhyw blentyn a rhiant sydd yn dysgu'r iaith Gymraeg trwy cynnig cymorth lafar a ysgrifennedig iddynt.
Yes

Rydym yn gollwng/codi o'r ysgolion hyn:

  • Abergwili Voluntary Controlled Primary School
  • Cwrt Henri Primary School
  • Y.G. Nantgaredig
  • Ysgol Gynradd Wirfoddol Llanddarog
  • Cylch Meithrin Nantgaredig a Cwrt Henri.

 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Danrallt
Llanarthne
Caerfyrddin
SA32 8JX

 Gallwch ymweld â ni yma:

Danrallt
Llanarthne
Caerfyrddin
SA32 8JX



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
  • Croeso i fwydo ar y fron
  • Cyfleusterau newid babanod