Fosterline Wales - The Fostering Network in Wales - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Y Rhwydwaith Maethu yw prif elusen faethu’r Deyrnas Unedig. Y ni yw’r rhwydwaith hanfodol ar gyfer maethu, sy’n dod â phawb ynghyd sy’n gysylltiedig â bywydau plant maeth.

Llinell Faethu Cymru yw’n llinell wybodaeth a chynghori ddwyieithog o ansawdd uchel ar gyfer gofalwyr maeth cyfredol a darpar ofalwyr maeth, gofalwyr Pan Fydda i’n Barod, cyn-ofalwyr maeth sy’n warcheidwaid arbennig, y rheiny sy’n cynorthwyo pobl sy’n gadael gofal, gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a holl aelodau eraill y cyhoedd. Y gwasanaeth ymyrraeth gynnar, hanfodol hwn yw’r unig wasanaeth cynghori cenedlaethol ar faethu.

Mae’n gwneud cyfraniad arwyddocaol at sefydlogrwydd a pharhauster lleoliadau, gan atal problemau rhag dwysáu a allai fel arall arwain at chwalu lleoliad neu at ofalwyr yn rhoi’r gorau i faethu.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Pawb sy’n gysylltiedig â maethu megis gofalwyr maeth cyfredol a darpar ofalwyr maeth, cyn-ofalwyr maeth sy’n warcheidwaid arbennig, plant a phobl ifanc mewn gofal, gwasanaethau maethu a gweithwyr cymdeithasol, cynghorwyr personol, ymarferwyr eraill ym maes gofal cymdeithasol, gweithwyr addysg ac iechyd proffesiynol, a holl aelodau eraill y cyhoedd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall rhywun gysylltu â ni’n uniongyrchol.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

33-35 Cathedral Road
Cardiff
CF11 9HB



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Monday - Friday from 9.30am - 12.30pm.