The Pamela Miller Ballet School - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein dosbarthiadau ballet yn addas ar gyfer pob oed a gallu, o ddechreuwyr i ddawnswyr profiadol.

Mae'r dosbarthiadau yn cael eu cymryd gan Pamela Miller sy'n athro proffesiynol profiadol, sydd wrth ei bodd yn rhannu ei brwdfrydedd, ei gwybodaeth a'i technegau dawns gyda'i disgyblion a'i myfyrwyr ifanc i gyd.

Cynlluniwyd dosbarthiadau Ballet ar gyfer disgyblion ifanc i annog dychymyg, gwerthfawrogiad o gerddoriaeth a hefyd i fynegi drwy gyfrwng y ddawns. Mae'r plantos yn cael llawer o hwyl wrth ddysgu ac maen nhw'n mwynhau ochr dychymyg y dosbarth yn fawr.

Wrth i'w cryfder ddatblygu mae camau ballet yn cael eu cyflwyno'n dyner, ynghyd â thermau technegol Ffrengig. Yr eirfa ar gyfer ballet clasurol yw'r iaith Ffrangeg a defnyddir y termau technegol Ffrengig hyn yn rheolaidd fel bod y plant yn dod yn gyfarwydd â hwy o oedran ifanc ac yn derbyn yr iaith yn naturiol.

Cynhelir dosbarthiadau ballet drwy gydol yr wythnos yn ardal Abertawe a Chastell-nedd

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Pawb

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Cysylltwch â ni am rhagor o wybodaeth.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Saesneg yn unig

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Neath College
Dwr-y-Felin Road
Neath
SA10 7RF



 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Croeso i bob lefel a gallu. Rhaid i rhieni / gwarcheidwaid o bob plentyn newydd gwblhau holiadur wrth iddynt gyrraedd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y lefel uchaf o iechyd a diogelwch ar gyfer eich plentyn.

Dosbarthiadau o 4:30yp. Cysylltwch â ni am