(TEULUOEDD YN GYNTAF) - Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar mae hwn yn rhan o Dechrau’n Deg/ Teuluoedd yn Gyntaf. Ei nod yw darparu cefnogaeth i blant 2-4oed gydag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at ddarpariaeth cyn-ysgol a leolir yn y gymuned.
Ein nod yw sicrhau fod plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi cyn gynhared â phosibl a thrwy ddarparu ymyrraeth gynnar ein bod ni’n gallu sicrhau fod plant yn derbyn cefnogaeth amserol.
Rydym hefyd yn cydlynu â lleoliadau cyn-ysgol i sicrhau fod plant yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth cyn-ysgol a bod y sgiliau angenrheidiol gan Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar, ynghyd â phrofiad a hyfforddiant er mwyn cynnig ymyrraeth o ansawdd i ddiwallu anghenion plentyn unigol.
Yn ychwanegol, rydym hefyd yn gweithio’n agos at Leoliadau y Blynyddoedd Cynnar i sicrhau trefniadau pontio llyfn a chadarn wrth i blant symud ymlaen i’r ysgol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Teuluoedd â phlentyn / plant 2-4 oed

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Cyfeirio gan Ymwelydd Iechyd, Seicolegydd Addysg a Chyn-ysgolion y Blynyddoedd Cynnar

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Duffryn Road
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4BJ



 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun i Dydd Gwener 09:00 - 14:00