Cymorth i Ofalyddion Ifainc Caerffili - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Tîm Gofalyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach yn
cynnig cymorth i ofalyddion ifainc.

Gallwn ni gynnig:
- Cymorth un i un sy’n cynnwys yr hyn sy’n bwysig i chi fel
gofalydd ifanc (a elwir yn asesiad gofalyddion).
- Sesiynau grwˆ p i sgwrsio am eich rôl ofalu gyda ni a gofalyddion eraill.
- Cyfleoedd ar gyfer cymorth lles gan y gwasanaeth Seicoleg Plant a Theuluoedd.
- Sesiynau gwybodaeth am bethau yr hoffech chi ddysgu amdanyn nhw o bosib.
- Gweithgareddau hwyliog ac amser i ffwrdd o’ch rôl ofalu. (Rydyn ni bob amser yn chwilio am bethau newydd i’w gwneud hefyd, felly byddem ni wrth ein bodd pe byddech chi’n dweud wrthym beth yr hoffech chi ei wneud).
- Aelodaeth campfa am ddim neu am gost is o gampfeydd a chanolfannau hamdden y Cyngor (mae hyn yn dibynnu ar oedran).

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Gofalyddion ifanc ym Mwrdeistref Sirol Caerffili (up to age 18 years)

E-bost: gofalyddion@caerffili.gov.uk
Gwefan: www.caerffili.gov.uk/gofalyddion
Ffôn: 01495 233218 neu 01495 233234

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae cyferiad JAFF eu hangen (Joint Assessment Family Framework)

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Rydym ni yn hapus I addasu ein rhaglen I cefnogi plant gyda anabledd
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun I Dydd Iau 8:30am-5:00pm
Dydd Gwener 8:30am-4:30pm