Tîm Derbyn (Gwasanaethau Cymdeithasol) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Y Tîm Derbyn yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sy’n mynegi pryderon newydd ynghylch llesiant plentyn neu wybodaeth newydd am blentyn y mae’r tîm eisoes yn gwybod amdano. Mae’r tîm yn cynnig gwasanaethau asesu yn ogystal â chyfeirio pobl at wasanaethau priodol eraill.
Mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am asesiad rhieni / gofalwyr. I ofyn am asesiad gofalwr ifanc, ffoniwch Linell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf (08000327322)

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn canolbwyntio ar saith prif grŵp:

- Plant a phobl ifanc y mae angen help a chymorth ar eu teuluoedd i ofalu amdanynt oherwydd salwch neu broblemau eraill
- Plant a phobl ifanc y maent mewn perygl o gael niwed, y maent wedi cael eu hesgeuluso, neu y gallent fod wedi cael niwed
- Plant anabl
- Plant y maent yn derbyn gofal (mewn gofal)
- Plant a phobl ifanc mewn trafferthion gyda'r gyfraith
- Plant a phobl ifanc y mae'r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt ac y maent wedi gadael gofal nawr
- Pobl ifanc mewn angen nad oes ganddynt unrhyw le i fyw."

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. All children are entitled to have an assessment if it is deemed they require care and support.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfa'r Dociau
Y Barru
CF63 4RT

 Gallwch ymweld â ni yma:

Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfa'r Dociau
Y Barri
CF63 4RT



 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen glyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun - dydd Iau 9:00am - 5:00pm. Dydd Gwener 9:00am - 4:30pm