Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gyd-fenter arloesol i gynnig gwasanaethau mabwysiadu. Daeth â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol Cymru ynghyd i strwythur 3 haen sy'n cynnwys partneriaethau ag Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol Cymru a Gwasanaethau Iechyd ac Addysg.

Mae 22 cyngor Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bob plentyn sy'n derbyn gofal wrth adnabod a gweithio gyda phlant sydd a chynllun mabwysiadu. Mae cynghorau'n gweithio o fewn 5 cydweithrediad rhanbarthol i ddarparu ystod o wasanaethau mabwysiadu. Mae pob un yn darparu swyddogaethau'r asiantaeth fabwysiadu ar gyfer plant, yn recriwtio ac yn asesu mabwysiadwyr, yn cynnig cwnsela i rieni biolegol a chyngor i oedolion mabwysiedig.

Gall y Rhanbarthau neu'r Awdurdodau Lleol ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu. Yn genedlaethol, mae'r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a thîm canolog bach, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd ar ran yr holl awdurdodalleol, yn sbarduno gwelliant, cysondeb a chydlynu.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mabwysiadwyr darpar neu gymeradwy
Plant a phobl ifanc sy'n cael eu mabwysiadu neu a allai gael eu mabwysiadu
Rhieni biolegol
Oedolion a gafodd eu mabwysiadu fel plentyn
Aelodau eraill o'r teulu yr effeithir arnynt gan fabwysiadu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwasanaeth mabwysiadu p'un ai o'r gorffennol, gwasanaeth cyfredol neu os ydych chi'n ystyried defnyddio gwasanaeth mabwysiadu yn y dyfodol, defnyddiwch y dolenni ar ein gwefan i gysylltu â'ch gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol lleol neu asiantaeth wirfoddol. Yn yr un modd, os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn rhiant mabwysiadol, gallwch ddarganfod mwy trwy edrych ar y tudalennau hyn. http//www.adoptcymru.com/y broses fabwysiadu.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Oes - rhaid talu am asesiad gan y sawl sydd am gael eu cymeradwyo i fabwysiadu plant o wledydd eraill

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gallwch hunan gyfeirio

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Ystafell 409
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd lau 9 - 5
Dydd Gwener 9 - 4.30