Lles Ieuenctid - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc Teuluoedd yn Gyntaf yn broject a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd yn seiliedig ar ymagwedd amlasiantaeth o gefnogi pobl ifanc.

Bydd Gwasanaeth Lles Pobl Ifanc y Fro yn cynnig cymorth wedi ei dargedu i bobl ifanc sydd wedi wyneb profiadau plentyndod sydd yn effeithio’n sylweddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol.

Nod y gwasanaeth yw:

• Gwella lles cymdeithasol ac emosiynol.
• Gwella hyder a gwydnwch.
• Ymrymuso pobl ifanc i ddod yn gyfranogwyr cynhyrchiol a gweithredol mewn cymdeithas.
• Gwella cyfleoedd bywyd pobl ifanc.
• Adeiladu capasiti pobl ifanc i ystyried risg, gwneud penderfyniadau rhesymegol a chymryd rheolaeth.
• Datblygu agweddau, ymddygiad ac uchelgais cadarnhaol.
• Datblygu gallu pobl ifanc i reoli perthnasoedd personol a chymdeithasol.
• Atal anghenion rhag gwaethygu.
• Amddiffyn pobl ifanc rhag y niwed gaiff ei achosi gan fod yn agored i PPNau a phrofiadau tebyg eraill.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Bydd y prif ffocws ar gefnogi pobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed ym Mro Morgannwg. Prif nodau’r cymorth yw magu hyder a gwydnwch, gwella lles emosiynol a chymdeithasol a gwarchod rhag profiadau andwyol eraill plentyndod. Bydd y gwasanaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau fod pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd y project yn derbyn atgyfeiriadau trwy Linell Gymorth Teuluoedd yn Gyntaf - 0800 0327322

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Gwasanaeth cynhwysol
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Civic Offices
Holton Road
Barry
CF63 4RU



 Amserau agor

9am - 5pm