Grŵp Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion - Diddyfnu / Maethiad / Bwydo Babanod - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta defnyddiol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o Wasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni Rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn Grwpiau.
Diddyfnu a Maeth
Sesiwn, lle y byddwn yn sôn am ddechrau bwydo bwyd solet i'ch baban. Byddwn yn trafod pryd i ddechrau bwydo bwyd solet a pha fwyd i'w roi iddynt, sut i wneud hynny mewn ffordd ddiogel ac yn bwysicaf oll, sut i sicrhau bod hwn yn brofiad hwyliog a phleserus i'r teulu cyfan! Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol er mwyn i ni gyd allu rhannu syniadau.
Yn ystod y sesiwn, mae'n cynnig cyfle i chi hefyd feithrin cyfeillgarwch gyda rhieni eraill sydd â babanod yr un oed.
Byddwch yn cael llyfryn Ffordd o Fyw Iach i gyd-fynd â'r sesiynau hefyd, yn llawn cyngor a ryseitiau teuluol i chi roi cynnig ar.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant Bwydo ar y Fron, felly os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda Bwydo ar y Fron, cysylltwch â ni.

Am fwy o wybodaeth am y grŵp cysylltwch â ni.
.
#ODan5Ceredigion #DechraunDegCeredigion #RhiantaCeredigion

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes