Gwasanaeth Cofrestru Caerfilli - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Gwasanaeth Cofrestru yn gyfrifol am gofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau, am gymryd hysbysiadau cyfreithiol o briodasau a phartneriaethau sifil ac am gynnal seremonïau, gan gynnwys seremonïau priodas, partneriaeth sifil, enwi, ailddatgan addunedau a dinasyddiaeth.

Mae'r tudalennau hyn wedi'u cynllunio i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, archebu seremoni neu gael copi o dystysgrif.

Mae gan y Swyddfa Gofrestru bron pob un gofrestr o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau sydd wedi digwydd yn y fwrdeistref sirol sy'n dyddio o 1837 hyd at heddiw. Yn ychwanegol, cedwir holl bartneriaethau sifil ardal gofrestru Caerffili o 2005 ymlaen. Mae'n bosib gofyn am dystysgrif gopi o unrhyw gofrestr archifedig.


Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Holl drigolion Caerffili ac unrhyw un sy'n dymuno priodi o fewn lleoliad cymeradwy ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Pob aelod o'r cyhoedd i sicrhau bod eu dyletswydd statudol i gofrestru digwyddiadau yn cael ei hwyluso a'u bod nhw'n gallu trefnu eu priodasau a'u partneriaethau sifil mewn modd amserol. Rydyn ni'n darparu cymorth a chyngor i gwsmeriaid ar bob agwedd ar gofrestru, dinasyddiaeth a chenedligrwydd.

Rhanddeiliaid eraill drwy ddarparu data ar gyfer gwaith hanfodol ar ystadegau poblogaeth ac ymchwil feddygol, gan sicrhau bod y crwner yn cael ei hysbysu er mwyn ymchwilio i farwolaethau yn unol â phrotocolau a rheoliadau, gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i gyflawni ei hagenda Diogelu’r Cyhoedd ac Atal Twyll, cynorthwyo'r clerigwyr a phersonau awdurdodedig yn eu gwasanaethau priodas a darparu'r rhaglen Dywedwch Wrthym Unwaith mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Mae cofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau a'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae ffioedd sy'n daladwy am dystysgrifau, rhoi rhybudd cyfreithiol, seremonïau a rhai cywiriadau neu ddiweddariadau i'r cofnodion cyfreithiol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nid oes angen atgyfeiriad. Rhaid trefnu apwyntiadau ymlaen llaw.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Penallta House
Tredomen Park
Hengoed
CF82 7PG



 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

I gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil bydd angen i chi wneud apwyntiad.

Dydd Llun, 9am-4.30pm
Dydd Mawrth, 9am-4.30pm
Dydd Mercher, 9am-4.30pm
Dydd Iau, 9am-4.30pm
Dydd Gwener, 9am-4pm
Dydd Sadwrn, drwy apwyntiad yn unig
Dydd Sul, drwy apwyntiad yn unig

Nid oes cofrestrydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 12.30pm a 1.30pm i gofrestru genedigaethau a marwolaethau.