Mae'r Gwasanaeth Plant Anabl eisiau cynnig amgylchedd lle mae plentyn sydd ag anabledd yn blentyn yn gyntaf, ac yn cael ei hybu a'i gefnogi i gael yr un gwasanaethau a chyfleoedd â phlant eraill.Rydyn ni'n bwriadu gweithio mewn partneriaeth â phlant a'u teuluoedd ac asiantaethau eraill i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifainc sy'n anabl.Mae peth o'r cymorth rydyn ni ac asiantaethau eraill yn gallu ei gynnig yn cynnwys:• Gwasanaeth asesu sy'n rhoi cyngor a chymorth• Cynllunio gofal a chymorth• Darparu Seibiant/gwyliau bach• Gweithgareddau chwarae a hamdden sy'n hawdd eu cyrraedd• Cymorth fesul un er mwyn gweithio tuag at adeiladu sgiliau ac integreiddio• Taliadau uniongyrchol• Cymorth Therapi Galwedigaethol yn y Gymuned er mwyn lleihau effaith yr anabledd yn y cartref• Cyngor a chymorth arbenigol i blant o dan 5 oed• Cyngor a chymorth arbenigol i bobl ifainc sy'n troi'n oedolion
Plant anabl 0-18 oed
Nac oes
Am wybodaeth neu gyngor neu i ofyn am asesiad, ffoniwch ein Canolfan Alwadau
Iaith: Dwyieithog
Tŷ TrevithickAberpennarCF45 4UQ
http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ChildrenandFamilies/ChildrenandFamilies.aspx