Taliadau Uniongyrchol – Bro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Taliadau Uniongyrchol (TU) yn ffordd amgen o gael gwasanaeth gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg. Mae TUau yn rhoi mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu pecyn gofal, gan bod modd iddynt benderfynu pryd, ble a chan bwy y caiff eu hanghenion gofal eu bodloni. Mae TUau yn galluogi pobl i brynu eu gofal cymunedol neu eu gwasanaethau cymorth eu hunain e.e. cymorth gyda gofal personol, cymorth i fanteisio ar weithgareddau hamdden yn y gymuned, seibiant i ofalwyr. Mae nifer o bobl yn dewis cyflogi Cynorthwyydd Personol i'w helpu i fodloni eu hanghenion, er nad dyma'r unig ffordd y mae modd iddynt gael eu defnyddio. Mae'r swm y bydd y defnyddiwr gwasanaeth yn ei gael yn seiliedig ar eu hasesiad o angen ac fe'i telir yn unol â chyfradd yr awr ar gyfer diwrnodau'r wythnos a phenwythnosau.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae modd talu Taliad Uniongyrchol i'r grwpiau canlynol o bobl, yn dilyn asesiad o angen gan reolwr achos:
• Pobl y mae ganddynt Nam Corfforol
• Pobl y mae ganddynt Nam Synhwyraidd
• Pobl y mae ganddynt Anabledd Dysgu
• Pobl Hŷn
• Pobl y maent yn dioddef Salwch Meddwl
• Pobl y mae ganddynt gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl
• Plant 16 neu 17 oed y mae ganddynt Anabledd
• Gofalwyr (Gan gynnwys Gofalwyr Ifanc 16 neu 17 oed)
• “Unigolyn Addas” ar ran unigolyn heb alluedd

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Cynhelir asesiad ariannol o oedolion er mwyn pennu a oes gofyn iddynt gyfrannu at eu pecyn Taliadau Uniongyrchol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Os nad oes gennych chi weithiwr cymdeithasol, dylech gysylltu â: Contact OneVale Ffôn: 01446 700111 Byddant yn trefnu bod asesiad yn cael ei gynnal. Rhaid cynnal asesiad cyn y bydd modd talu Taliadau Uniongyrchol.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am - 6pm