Youth Clubs in the Vale of Glamorgan - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn gweithredu sawl clwb ieuenctid ledled Bro Morgannwg sydd ar gael i bobl ifanc 11-25 oed. Mae’r clybiau ieuenctid hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc wneud ffrindiau a chael hwyl mewn amgylchedd diogel. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau o chwaraeon, coginio, i gelf a chrefft a llawer mwy!
Mae pobl ifanc hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau ar lawer o bynciau gwahanol, ac fel rhan o Wobr Dug Caeredin.
Hefyd ar gael i bobl ifanc mae'r cyfle i fynd ar deithiau, tripiau preswyl a chyfleoedd gwirfoddoli. Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr o bob oed i helpu i gynnal ein gweithgareddau, yn enwedig cyn-aelodau!
Rydym yn gweithio mewn cymunedau lleol i redeg ein clybiau y mae rhai ohonynt yn cael eu cefnogi gan ein partneriaid, gan gynnwys clwb ieuenctid anabledd mewn partneriaeth â Vale People First a chlwb ieuenctid Cymraeg mewn partneriaeth â'r Urdd. Rydym yn falch o gynnal ystod amrywiol o glybiau ieuenctid.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r adnodd ar gyfer pobl ifanc sy'n byw ym Mro Morgannwg. Mae ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac mae gennym ystod o glybiau mewn lleoliadau gwahanol sy’n digwydd ar nosweithiau gwahanol ac ar adegau gwahanol, felly os hoffech gael mwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan; neu dilynwch ni ar Facebook, Instagram a X - @vysvale

Mae gennym hefyd sianel YouTube gydag ystod o ffilmiau sy'n arddangos y gwasanaeth ieuenctid, prosiectau a phrosiectau ffilm cyffredinol rydym wedi'u gwneud gyda phobl ifanc felly mae croeso i chi edrych ar ein sianel YouTube - Gwasanaeth Ieuenctid y Fro

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Anyone as long as you live in the Vale and are aged between 11-25

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. We have a Flexible Learning Officer that can arrange additional support and cater for ADL, please contact us first to look at individual need and to arrange support if required
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch

 Amserau agor

Monday - Friday varying times between including some weekends and trips, also school holidays and summer programmes