Gwasanaeth Lleoli Oedolion Bro Morgannwg (Pwynt Cyswllt Cyntaf) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn cynnig Gwybodaeth a Chyngor, yn ogystal â Gofal a Chymorth, i helpu pobl i wneud penderfyniadau call er mwyn cynnal eu llesiant, eu hannibyniaeth a’u diogelwch. Gallwn drafod beth sy'n bwysig i chi a’r opsiynau amrywiol sydd ar gael yn eich cymuned.

Cynigir Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i oedolion sy’n byw ym Mro Morgannwg ac fe’u rhennir yn ddau faes arbenigol:
Gofal Hirdymor i oedolion hŷn ac oedolion sydd ag anableddau corfforol a synhwyrol.
• Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i oedolion sydd â phroblemau iechyd meddwl.
• Gwasanaethau Anabledd Dysgu Cymunedol i oedolion sydd ag anableddau dysgu..

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Oedolion sy’n 18+ oed ac sy’n byw ym Mro Morgannwg
- y rhai sy’n gofalu am oedolion 18+ oed (gofalwyr)

Mae’n fwy tebygol y cewch eich asesu fel rhywun y mae angen gofal a chymorth arno os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
• rydych yn hŷn ac yn fregus
• mae gennych anabledd corfforol neu ddysgu
• mae gennych broblem iechyd meddwl
• rydych yn agored i niwed oherwydd rhesymau eraill fel
• problem gyda chamddefnyddio alcohol neu sylweddau
• nid ydych yn gallu amddiffyn eich hun rhag niwed

Neu rydych yn ofalwr sy’n cefnogi oedolyn neu oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu fel pwynt mynediad sengl (SPoA) ar gyfer Bro Morgannwg.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Mae'n dibynnu – Gallwn ofyn i chi dalu tuag at gostau unrhyw Ofal a Chymorth rydych yn eu derbyn gan ddibynnu ar arian. Rhoddir gwybod i chi am yr holl gostau trwy gydol y broses

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un atgyfeirio neu gysylltu â’r gwasanaeth drwy gysylltu â C1V (manylion isod).

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

C1V
Canolfan Hamdden
Y Barri
CF63 4JJ



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Iau 8:30am - 5pm
Dydd Gwener 8:30am – 4:30pm