Hwb Cymunedol Borth - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Hyb Cymunedol y Borth yn elusen a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn rhedeg Canolfan Deulu Borth, Clwb Ieuenctid Borth, Cymunedau Gofalgar Borth a Sied Dynion Borth.

Rydym yn cynnal clwb ieuenctid wythnosol ac ystod eang o weithgareddau a chefnogaeth i aelodau hŷn ein cymuned yn ein grwpiau Cymunedau Gofal Borth. Mae’r rhain yn cynnwys dosbarth celf a grŵp sy’n dementia cyfeillgar.

Rydym yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau awyr agored bob wythnos gan gynnwys grŵp cerdded a siarad i rieni newydd, Bwmp a Babanod, Ysgol Goedwig, Iaith a Chwarae Awyr Agored a gweithgareddau Traeth yn ogystal â'n grŵp Clwb Ieuenctid. Mae ystod eang o gymorth ar gael o hyd trwy Zoom a’r ffôn. Ystod eang o weithgareddau ar gyfer pobl hŷn gan gynnwys grŵp poblogaidd Walking4Wellbeing.

Dewch o hyd i ni ar Facebook {Canolfan Deulu Borth}, Instagram neu e-bostiwch contact@borthfamilycentre.co.uk neu 07896616857.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym bennaf yn cefnogi teuluoedd a phlant or oedran 0-11, pobl ifanc a aelodau hŷn yn ein cymuned, enwedig rhai sydd gyda materion cof.

Cynnigwn ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli. Rhain yn cynnwys y cyfle i gynnal ein gardd yn y Hwb, cymorth mewn grwpiau gwyneb i wyneb a gyda'n danfoniadau i'r gymuned.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Unrhywun medru dod i'r canolfan deuluol heb eu cyfeirio.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae ein gwasanaethau yn agored i bob teulu a'n nod yw sicrhau bod ein gweithgareddau yn hygyrch i blant ag anableddau
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Gellir cysylltu â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4pm.