Canolfan Deuluol Penparcau - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod Canolfan Deuluol Penparcau yw hyrwyddo perthynas dda rhwng rhieni a’u plant a hynny drwy gynnig profiadau cadarnhaol a chymorth pan fydd angen.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal amryw o grwpiau a chyrsiau ar-lein mewn modd diogel a hwyliog. Mae deunyddiau ac adnoddau ar gyfer pob cwrs yn cael eu cyflenwi er mwyn dod â'r Ganolfan Deuluol i'ch cartref. Rydym yn deall fod bod yn rhiant yn gallu bod yn heriol ar adegau, heb sôn am wneud hynny yn ystod pandemig! Gan ystyried hyn, mae ein grwpiau a'n cyrsiau yn fyr ac yn hawdd i gael mynediad iddyn nhw, ac maen nhw wedi'u teilwra ar gyfer anghenion pob grŵp.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn cefnogi teuluoedd, rhieni a gofalwyr.

O achos COVID, nid oes modd i chi ymweld â’n canolfan deuluol ond rydym ar gael dros y ffôn/ drwy e-bost.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gallwch unrhyw un cysylltu a ni.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae aelodau'r staff yn hyderus cefnogi pob teulu.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

105-106 Heol Tyn-y-Fron
Penparcau
Aberystwyth
SY23 3YD



Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Oriau, Dydd Llun-Dydd Gwener 9-5.

O achos COVID yr ydyn yn gweithio yn rhyngweithiol.