Mae’r Sefydliad Dyspracsia yn elusen sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, a sefydlwyd ym 1987 fel yr Ymddiriedolaeth Dyspracsia gan ddwy fam a gyfarfu yn Ysbyty Great Ormond Street ar gyfer Plant Sâl. Mae Anhwylder Datblygu Cydgysylltiad, sydd hefyd yn cael ei alw’n dyspracsia, yn anhwylder cyffredin sy’n effeithio ar gydgysylltiad echddygol (motor coordination) manwl a/neu fras mewn plant ac oedolion.Mae’r Sefydliad yn achub ar bob cyfle i wella dealltwriaeth o Ddyspracsia, yn arbennig ymhlith gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac addysg, ac mae’n annog ei grwpiau lleol i wneud yr un peth. Mae’n parhau i annog y grwpiau lleol llai i ffynnu a datblygu eu syniadau eu hunain ac i rannu gwybodaeth a chodi arian dros eu hunain.Mae ein llinell gymorth ar gael i'ch helpu gyda phroblemau a materion y gallech ddod ar eu traws; cynnig cymorth a chyngor i bobl â dyspracsia, rhieni, gofalwyr, a theuluoedd am neu ar bwnc dyspracsia.
Rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Mae'n dibynnu - Tâl am fod yn aelod o’r Sefydliad Dyspracsia. Mae’r flwyddyn aelodaeth yn mynd o 1 Ebrill i 31 Mawrth a gellir adnewyddu bob blwyddyn.
Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.
Iaith: Saesneg yn unig
8 West AlleyHitchinSG5 1EG
https://www.dyspraxiafoundation.org.uk