Tîm Teulu - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Tîm Teulu yn dîm o weithwyr teuluol sy'n cynnig cymorth cynnar gan ddefnyddio rhaglennu canolbwyntiedig rhieni i alluogi teuluoedd i ailgysylltu gyda'i gilydd a'u cymunedau. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall beth sy'n bwysig i chi ac yn eich helpu chi i gyflawni'r canlyniadau yr ydych chi'n dymuno eu gweld ar gyfer eich teulu.
Rydym yn gweithio yn agos gyda cydgysylltwyr Tîm o Amgylch y Teulu a gwasanaethau cymorth i deuluoedd arall gyda'r teulu cyfan i ddatblygu eu sgiliau trwy ddarparu cyngor a chymorth i rieni, cymorth mentora i bobl ifanc a gweithiwr penodedig i rieni ifanc (hyd at 25 oed).

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Gweithiwn gyda rhieni, gofalwyr a'u plant sydd angen cyngor a strategaethau i ddeall a gwella eu perthnasoedd a sgiliau ymdopi. Mae rhai grwpiau a rhaglennu megis gweithdai 'Yr Ymennydd Sydd ar Fai' i ddeall a rheoli datblygiad llencynnaidd, yn cael eu cyrchu drwy hunan fynediad. Efallai bydd pecynnau cymorth dwys unigol gyda chynllunio a chefnogaeth angen cyfeiriad drwy Tîm o Amgylch y Teulu ar gyfer asesiad a chydlyniant ble mae mwy na dau asiantaeth yn rhan.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Os nad ydych chi'n breswylydd neu'n weithiwr proffesiynol yng Ngheredigion ond eich bod yn dymuno comisiynu ein gwasanaeth, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd angen i Gydlynydd y Tîm o Amgylch y Teulu wneud cais am rai agweddau ar ein gwasanaeth. Rhaid i'r teulu gytuno i weithio gyda'n gwasanaeth

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Rydym yn gweithio gyda phob teulu gan gynnwys y rhai sy'n profi camwahaniaethu ar sail eu anghenion a/neu cyflwr meddygol fel plant gyda ADHD
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i Gwener - 9.30 yb - 5.00yp ond bydd amserlen yn cael ei gytuno gyda chi ar gyfer ymweliadau o amgylch eich amselen gwaith.