Gwasanaeth Ieuenctid Conwy - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein sesiynau a’n gweithgareddau yn cynnwys ein clybiau ieuenctid a’n sesiynau symudol, clybiau ysgol mewn gwahanol ysgolion o amgylch Sir Conwy .

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae 'na glybiau ieuenctid gret ar draws y sir ble gall pobl ifanc o 11 oed gyfarfod cael sgwrs ac ymlacio!

Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn Sir Conwy. Bydd rhai o'r gweithgareddau gwych sydd i'w gwneud yn y clybiau yn cynnwys: Cerddoriaeth, Gweithgareddau Awyr Agored, Celf a Chrefft, Gemau Tim, Peldroed, Dawns a Drama, Cyfrifiaduron...Nid yn unig hyn ond mae gweithwyr ieuenctid Conwy yn mynd yma ac acw o gwmpas yr ardal yn aml a hefyd mae 'na fws ieuenctid yn aros fan hyn a fan draw mewn ardaloedd a phentrefydd gwledig. Wrth gwrs mae 'na lawer o bethau eraill yn digwydd fel tripiau a theithiau sesiynau iechyd galw i mewn DofE (Gwobr Dug Caeredin) a llawer mwy - mae'r rhestr yn hir iawn iawn! Am ragor o wybodaeth cymerwch olwg ar y wefan.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Cysylltwch am fanylion

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn gweithio gydag unrhyw un rhwng 11 a 25 oed, beth bynnag fo’u rhyw, eu cefndir neu eu gallu.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Cysylltwch am fanylion
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

PO Box 1
Conwy
LL30 9GN



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Lifft
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

gweler wefan am fanylion