The Daily Mile - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Datblygwyd The Daily Mile gan Elaine Wyllie MBE pan oedd hi’n Bennaeth
Ysgol Gynradd St Ninian yn Stirling, ym mis Chwefror 2012. Ers 2016, mae
Milltir y Dydd wedi tyfu ledled y byd a helpu miliynau o blant i fod yn actif
bob dydd.
Nod The Daily Mile yw gwella lles ac iechyd corfforol, cymdeithasol,
emosiynol a meddyliol ein plant – waeth beth fo’u hoedran, eu gallu na’u
hamgylchiadau personol. Anogir plant i redeg, loncian, olwyno neu gerdded
tu allan am 15 munud y dydd, ar ba bynnag gyflymder sy’n teimlo orau.
Mae’n annog y plant i symud gyda’u ffrindiau a’u hathrawon a rhoi adfywiad
iddynt yn barod i ddysgu mwy.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r fenter yn syniad syml ond effeithiol dros ben, y gall unrhyw ysgol ei gweithredu am ddim, heb
fod angen hyfforddi staff na chael offer ychwanegol. Gall yr effaith fod yn un drawsnewidiol – gwella
ffitrwydd y plant, ond hefyd eu cyrhaeddiad, eu tymer, eu hymddygiad a’u lles cyffredinol. Nid
gwers chwaraeon nac addysg gorfforol yw The Daily MIle, ond iechyd a lles drwy weithgaredd
corfforol dyddiol.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes






 Hygyrchedd yr adeilad