Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT) yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn argyfwng mewn sefyllfaoedd brys sy'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ac nad oes modd iddynt aros nes y diwrnod gwaith nesaf er mwyn cael asesiad o'r risg a'r ddarpariaeth gwasanaethau.

Mae'r gwasanaeth ar gael i'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol y maent yn byw ac yn gweithio ym Mro Morgannwg neu Ddinas Caerdydd. Mae gweithwyr cymdeithasol EDT wedi cael eu hyfforddi i ymateb i geisiadau plant ac oedolion am help a chymorth neu asesiadau brys.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'n wasanaeth generig ar gyfer oedolion a phlant agored i niwed, gan gynnig mynediad i weithiwr cymdeithasol mewn argyfwng gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banca gellir cysylltu â nhw ar 02920 788570.

Nid yw'r gwasanaeth ar gael yn ystod y dydd, felly ar gyfer Bro Morgannwg, cysylltwch â'r:
• Tîm Derbyn a Chymorth i Deuluoedd (plant) 01446 725202 neu Contact OneVale (oedolion) 01446 700111

Ar gyfer Caerdydd, cysylltwch â'r:
• Pwynt Mynediad i Blant (plant) ar 029 2053 6490 neu'r Gwasanaeth Byw Bywyd Annibynnol (oedolion) ar 029 20 234 234.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae cyswllt gyda'r gwasanaeth yn uniongyrchol gyda'r gweithiwr cymdeithasol dros y ffôn ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.






 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Iau 5pm – 8:30am
Dydd Gwener 4:30pm tan 8:30am ar y dydd Llun dilynol
24 awr yn ystod Gwyliau Banc ac ar benwythnosau