Pwy ydym ni'n eu cefnogi
0-5 oed Bydd Cylch Chwarae Natur yn ennyn brwdfrydedd eich plentyn a’u cariad tuag at natur drwy chwarae, archwilio a dysgu’n rhydd yn y goedwig gyda phlant eraill.
5-7 oed Mae Gweilch y Coed yn gynllun chwarae dan arweiniad y plentyn sy’n caniatáu iddynt bennu’r cyflymdra, dewis y gweithgareddau a chael dweud eu dweud ynglŷn â’r gemau a chwaraeir.
8+ oed Mae Clwb Gwyllt yn y Coed yn gynllun chwarae dan arweiniad y plentyn sy’n caniatáu iddynt ddilyn y gweithgareddau a ddewiswyd ganddynt, cynllunio trefn y sesiwn a gweithio ag eraill i ddysgu am gyfaddawdu a thegwch.