Gwasanaethau Chwarae Plant Cynghorau Caerdydd - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae gan y Gwasanaethau Chwarae Plant ‘Gynlluniau Chwarae Mynediad Agored’ i blant 5-14 yng Nghaerdydd. Mae’r gwasanaeth bob amser yn gweithredu darpariaeth ‘Mynediad Caeedig’ i blant a phobl ifanc anabl.
Mae timau chwarae cymwys yn hwyluso ystod eang o weithgareddau yn ogystal ag annog plant i ddyfeisio rhai eu hunain. Gwneir pob ymdrech i fodloni anghenion arbennig ac unigol yr holl blant sy’n mynd.

Gallai’r gweithgareddau gynnwys:

Gemau grŵp fel:
Gemau parasiwt, creu den, gwisgo fyny, gemau bwrdd, gemau cardiau, rhedeg, jenga, charades, gemau meddwl ac ati.

Chwaraeon fel:
Tennis bwrdd, gemau pêl, hoci, sgipio, pêl-droed, batio, peli, hŵla hŵps, cyrsiau dringo, hoci rhifau, osgoi’r bêl, matiau crash a chwarae meddal.

Celf a Chrefft megis:
Darlunio, modelu sbwriel, lliwio, gludwaith, peintio, modelu clai, gemwaith, creu bathodynnau, gwneud cardiau, darlunio cartwnau, dathliadau â thema, gleiniau hamma, amlunio, peintio wynebau, celf ewinedd ac ati.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Plant a phobl ifanc 5-14 oed, gall plant iau fynychu yng nghwmni rhiant/oedolyn.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un 5-14 oed ddefnyddio cynlluniau chwarae.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Saesneg yn unig

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Gweler gwefan y Gwasanaethau Chwarae Plant i gael manylion llawn ar amseroedd a lleoliadau’r holl gynlluniau a phrojectau chwarae: www.caerdydd.gov.uk/chwaraeplant