Maethu - Merthyr Tudful - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Maethu Merthyr yn cefnogi rhwydwaith o ofalwyr maeth sydd wedi’u hyfforddi, eu cymeradwyo a’u cefnogi i ofalu am blant a phobl ifanc o Ferthyr Tudful.

Rydyn ni hefyd yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i drigolion lleol sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Os ydych chi’n newydd i’r maes maethu neu’n ofalwr profiadol sydd am drosglwyddo, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n dod yn rhan o deulu maethu Merthyr Tudful.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Fe allech chi ddod yn ofalwr maeth, waeth beth fo’ch oedran, rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd a chrefydd. Gallwch chi hefyd faethu os oes gennych chi anifeiliaid anwes, anabledd, plant yn byw gartref, neu os ydych yn berchennog tŷ neu’n denant mewn tŷ preifat neu gymdeithasol.

Os oes gennych chi le yn eich cartref ac amser yn eich bywyd i ofalu am blentyn, yna cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nid oes angen atgyfeiriad i gysylltu â ni ynglŷn â dod yn ofalwr maeth.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Canolfan Ddinesig,
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN

 Gallwch ymweld â ni yma:

Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen glyw
  • Lifft
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun i Dydd Iau 9am i 5pm, Dydd Gwener 8.30am i 4.30pm