Dechrau'n Deg Ceredigion - Grŵp Rhieni Ifanc (Penparcau) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Tim Rhianta a Chymorth Teuluoedd Ceredigion yn cynnig sesiwn grŵp hwyliog a rhyngweithiol i rieni ifanc (25 oed ac iau) sy'n eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Rydyn yn gweithio gydag amrywiaeth o Wasanaethau ar draws Ceredigion hefyd, er mwyn darparu amrediad o raglenni Rhianta sy'n addas i anghenion rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn Grwpiau.

Fel arfer mae'r Grŵp Rhieni Ifanc yn cyfarfod bob wythnos. Rydym yn cynnig grŵp hwyliog a rhyngweithiol lle y gallwch gyfarfod rhieni ifanc eraill, cael sgwrs a manteisio ar gyngor a chymorth rhianta. Rydym yn cynnig syniadau am weithgareddau celf a chrefft hefyd, gan archwilio unrhyw faterion diddorol eraill yn y grŵp.
Mae'n gyfle gwych i gyfarfod rhieni ifanc eraill ac i'ch plentyn chwarae ac archwilio a gwneud ffrindiau newydd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Bydd y grŵp yn cyfarfod rhwng 11.00yb-12.00yp pob dydd Iau (amser tymor yn unig) yn y Ganolfan Integredig i Blant Yr Eos, Penparcau.

Nid oes angen archebu lle ar gyfer y grŵp hwn ond os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.


#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #CeredigionParenting

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un cysylltu a ni

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad