Dementia Support Service (Cardiff and Vale)


Beth rydym ni'n ei wneud

Cymdeithas Alzheimer's yw prif elusen cymorth ac ymchwil y Deyrnas Unedig i bobl â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Mae Gweithwyr Cymorth Dementia yn rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr, i ymdopi gyda bywyd gyda dementia a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Gellir cynnig cefnogaeth bersonol (wyneb-yn-wyneb), dros y ffôn, neu'n ysgrifenedig, gan ddibynnu beth sydd orau gan yr unigolyn a beth sydd ei angen arni/arno.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Unrhyw un y mae unrhyw fath o dementia yn effeithio arnynt, gan gynnwys: Pobl â dementia; gofalwyr; aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau rhywun sy'n byw gyda dementia.

Nid oes unrhyw feini prawf cymhwysedd eraill.

Os ydych yn siarad Cymraeg, ffoniwch ein llinell gymorth cyfrwng Cymraeg ymlaen
03300 947 400.

dementiasupportcymru@alzheimers.org.uk

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall pobl hunangyfeirio, neu gyfeirio trwy berthynas, ffrind neu weithiwr iechyd a/neu ofal cymdeithasol proffesiynol.




 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

1st Floor, S4C Media Centre
Parc Ty Glas
Cardiff
CF14 5DU

 Gallwch ymweld â ni yma:

1st Floor, S4C Media Centre
Parc Ty Glas
CF14 5DU



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

09.00am tan 5.00pm Dydd Llun - Gwener