Beth rydym ni'n ei wneud
Bydd nodau Rhaglen y Peilot Braenaru fel a ganlyn:
- Meithrin cydnerthedd unigol a chymunedol er mwyn galluogi teuluoedd i fyw bywydau diogel, iach a boddhaus, lle y gallant fagu eu plant yn llwyddiannus a manteisio i'r eithaf ar eu potensial.
- Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn trawsnewid darpariaeth Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar o'r rhai sydd wedi'u segmentu ac sy'n cyd-fynd â ffiniau statudol, i'r rhai sy'n manteisio ar ddull sy'n seiliedig ar leoedd. Nid yn unig y bydd y dull hwn yn darparu gwasanaethau integredig, ond bydd yn defnyddio model sy'n seiliedig ar gryfderau hefyd er mwyn gwella perthnasoedd rhwng sectorau, gwella ymgysylltu cymunedol a chreu amgylcheddau diogel a chefnogol.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn amrediad o raglenni gan gynnwys Plant Iach Cymru, y Cyfnod Sylfaen a Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau bod ein teuluoedd sy'n cynnwys plant 0-7 oed yn gallu manteisio ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Cymorth integredig i blant 0-7 oed a'u teuluoedd sy'n byw yn pob cod post yn yr ardaloedd Braenaru:
Aberaeron a Chei Newydd
Borth
Llanbedr Pont Steffan
Tregaron
#ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Bydd teuluoedd sy'n byw yn yr ardaloedd Braenaru yn gallu manteisio ar gymorth gan staff aml-asiantaeth Braenaru – staff Canolfannau Teuluoedd, Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd, Therapyddion Iaith a Lleferydd, staff Gofal Plant, Ysgolion, Meddygfeydd, asiantaethau Cyflogaeth ac asiantaethau eraill.
Amserau agor
Cysylltwch trwy neges e-bost a byddwn yn cysylltu â chi mor gyflym ag y gallwn. Bydd staff ar gael yn gyffredinol 9-5