Dechrau'n Deg Ceredigion- Paratoi ar gyfer bod yn Rhiant – cwrs - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta diddorol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o Wasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn Grwpiau.
#Dechrau'nDegCeredigion #ODan5Ceredigion #rhiantaceredigion

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r cwrs hwn ar gyfer rhieni, mam-guod a thad-cuod a gofalwyr – i bawb ym mywyd y babi, sy'n dymuno meithrin perthynas gadarn ac iach gyda'r babi.

Mae'n gwrs 5 wythnos sy'n ystyried sut a pham y mae cychwyn eich perthynas gyda'ch baban cyn i'ch baban gyrraedd y byd hyd yn oed, mor bwysig i chi a'ch baban!
Mae'n esbonio sut a pham yr ydych chi mor bwysig i'r baban, os mai chi yw'r fam, y tad, y partner, y fam-gu neu'r tad-cu neu'r partner geni.

Dros y 5 wythnos byddwn yn rhoi sylw i'r materion canlynol:
• Disgwyliadau o faban newydd
• Bwydo babanod a Chwsg Diogel
• Datblygiad ymennydd y baban
• Iaith gynnar – Siarad gyda'r baban yn eich croth
• Paratoi ar gyfer rhoi genedigaeth – darparir y sesiwn hon gan
Fydwraig
• Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Amenedigol

I gychwyn ar eich taith gyffrous cysylltwch a ni.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Self referral

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad