Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael ym Mro Morgannwg Mae'r cyllid yn dechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed ac mae'n cynnwys 12.5 awr yr wythnos o addysg feithrin (mewn meithrinfa ysgol*) a 17.5 awr yr wythnos mewn lleoliad gofal plant cofrestredig yn ystod y tymor.
Mae'r union ddyddiadau ar ein gwefan.

*Hefyd ar gael yn Ysgol Feithrin Sain Dunwyd a Chylch Chwarae Swallow. Cysylltwch â'r lleoliadau’n uniongyrchol i wneud cais

Yn ystod gwyliau'r ysgol, byddwch yn derbyn 30 awr o gyllid gofal plant am 9 wythnos wyliau mewn blwyddyn gyfan.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ac eithriadau, ewch i'n tudalennau gwe.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall rhieni a gofalwyr plant 3-4 oed ddefnyddio'r adnodd hwn

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol a'ch bod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant, efallai y gallwn ariannu hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant, staffio gofal plant ychwanegol, offer arbenigol, neu addasiadau corfforol i ddarpariaeth gofal plant. Gallwch ddweud wrthym y gallai fod gan eich plentyn anghenion ychwanegol ar eich cais am Gynnig Gofal Plant.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i Ddydd Iau
8:30am - 5pm
Dydd Gwener
8:30am - 4:30pm