Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol mewn Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT) yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn argyfwng mewn sefyllfaoedd brys sy'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ac nad oes modd iddynt aros nes y diwrnod gwaith nesaf er mwyn cael asesiad o'r risg a'r ddarpariaeth gwasanaethau. Mae'r gwasanaeth ar gael i'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol y maent yn byw ac yn gweithio ym Merthyr Tudful. Mae gweithwyr cymdeithasol EDT wedi cael eu hyfforddi i ymateb i geisiadau plant ac oedolion am help a chymorth neu asesiadau brys.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'n wasanaeth generig ar gyfer oedolion a phlant agored i niwed, gan gynnig mynediad i weithiwr cymdeithasol mewn argyfwng gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Atgyfeiriad sy'n ofynnol gan deulu/hunan neu unrhyw asiantaeth sy'n gweithio gyda'r teulu

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Iau 5pm – 8:30am
Dydd Gwener 4:30pm tan 8:30am ar y dydd Llun dilynol
24 awr yn ystod Gwyliau Banc ac ar benwythnosau