Gwasanaeth Atal - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y Gwasanaeth Atal yw cefnogi a gweithio gyda phobl ifanc 8 i 17 oed yr ystyrir eu bod mewn perygl o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Atal Mae cyfarfodydd achos yn cynnwys nifer o gynrychiolwyr o wahanol asiantaethau (e.e. yr heddlu, ysgolion, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol) gyda'r pwyslais ar sicrhau bod plant a'u teuluoedd, cyn gynted â phosibl, yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus prif ffrwd.

Bydd gan bobl ifanc ymarferydd dynodedig a fydd yn asesu eu hanghenion ac yn llunio cynllun unigol gyda'r person ifanc, ei deulu ac ymarferwyr eraill sy'n ymwneud â darparu cymorth. Yn ogystal â chydnabod a seilio'r ymyriad ar y cryfderau y gellir adeiladu arnynt i gefnogi penderfyniadau gwell, bydd camau gweithredu ar y cynllun hefyd yn mynd i'r afael ag ymddygiadau sy'n effeithio ar eraill.
Mae cymorth hefyd ar gael i rieni a allai fod yn ei chael hi'n anodd rheoli ymddygiad negyddol eu plentyn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Pobl ifanc rhwng 8 a 17 oed a allai fod mewn perygl o gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Yes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Vale Of Glamorgan Council
91 Salisbury Road
Barry
CF62 6PD



 Hygyrchedd yr adeilad

  • Parcio hygyrch
  • Lifft

 Amserau agor

Llun - Iau 8.30am - 5.00pm Dydd Gwener 8.30am - 4:30pm