Cynnig Gofal Plant - Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy sydd ar gael ac yn hygyrch yn golygu y gall rhieni weithio neu astudio, gan gefnogi ei hymdrechion i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb.

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cynnig hyd at 30 awr yr wythnos i blant 3 a 4 oed o Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant cofrestredig i rieni sy’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant. Mae'r 30 awr o gyllid yn cynnwys o leiaf 10 awr o Ddysgu Sylfaen a hyd at 20 awr o ofal plant yr wythnos.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:

Mae eich plentyn yn 3 - 4 oed;
Rhaid i rieni /cyplau sy'n cyd-fyw fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu rhiant unigol;
Rhaid i chi ennill isafswm wythnosol sydd gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol;
Neu fod yn derbyn budd-daliadau penodol, ar yr amod bod y rhiant arall yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd (gweler eithriadau isod);
Ennill llai nag uchafswm £100,000 y flwyddyn fesul rhiant;
Os oes gennych chi bartner sy'n byw gyda chi, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fodloni'r meini prawf.

Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Mae’r Cynnig wedi ei lunio mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i'r rhwystrau y gall rhieni cymwys eu hwynebu wrth ddefnyddio’r elfen gofal plant yn benodol, gan gynnwys plant ag anghenion cymorth ychwanegol. Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn un cynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, trafodwch gyda'ch Darparwr Gofal Plant am fwy o wybodaeth.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Canolfan Rheidol Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE



 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Iau 8:45 a.m. i 5:00 p.m.
Dydd Gwener 8:45 a.m. - 4:30 p.m.