Grŵp Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion – Tylino Babanod - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta rhyngweithiol, hwyliog a llawn gwybodaeth, a fydd yn eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol.

Dros y 6 sesiwn a gynigir i chi, bydd tylino babanod yn eich helpu i feithrin cyswllt gyda'ch baban. Cyn y gall babanod siarad, gallant gyfathrebu gyda'r byd o'u cwmpas trwy synnwyr cyffwrdd. Mae tylino yn ffordd o gyfathrebu gyda'ch baban cyn y gallant siarad. Gall eich helpu chi i:

- Gysuro eich baban
- Tawelu eich baban
- Gwella cwsg
- Gwella magu pwysau
- Cynorthwyo treulio
- Gwella cylchrediad
- Lleihau symptomau iselder ôl-enedigol

Gall tylino babanod fod yn rhywbeth gwych ar gyfer tadau hefyd. Efallai y bydd rhai tadau yn absennol pan roddir llawer o'r gofal ymarferol i'w babanod, yn enwedig os byddant yn y gwaith ac os bydd eu baban yn cael eu bwydo ar y fron. Gall sesiwn dylino reolaidd gyda dad ddatblygu i fod yn arfer, pan fydd hi'n amser mynd i'r gwely efallai, a fydd yn eu helpu i glosio.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Ar gyfer rhieni plant rhwng 8 wythnos a 7 mis oed.

I gychwyn ar eich taith Tylino Babanod, cysylltwch a ni.

#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

We will accept self referrals but we will also take referrals from health visitors.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Please contact for further details.