Barnardo's – Gwasanaeth camfanteisio rhywiol ar blant (CSE) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Barnardo’s yw darparwr pennaf cefnogaeth yn erbyn camfanteisio’n rhywiol ar blant (CSE) yn y DU. Rydym wedi gweithio ers mwy nag 20 mlynedd gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol, ac mae gennym ni wasanaethau arbenigol mewn mwy na 40 o leoliadau.
Ein gweledigaeth yw na ddylai’r un plentyn ddioddef camfanteisio rhywiol, ond mae mwy o blant nag erioed ein hangen ni. Yn 2014–15, gweithion ni’n uniongyrchol gyda 3,200 o blant yn y DU a oedd yn dioddef camfanteisio neu mewn risg. Mae’n debyg bod y nifer gwirioneddol yn uwch – am fod poen eu profiad a’u hofn na fyddan nhw’n cael eu credu yn golygu eu bod yn rhy ofnus i ddod yn eu blaen, ac efallai nad ydyn nhw’n ystyried eu hunain yn fictim.
I ddarparu’r gefnogaeth mae ei hangen ar blant sydd mewn perygl o gamfanteisio rhywiol neu sy’n ei ddioddef, mae ein gwaith yn hynod o amrywiol.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae ein gweithwyr proffesiynol medrus yn rhoi cymorth cyfrinachol mewn amgylchedd diogel. Maen nhw’n cynnig cwnsela unigol, gwaith grŵp a sesiynau galw heibio i blant sydd wedi dioddef camfanteisio rhywiol i ddianc ac ymadfer.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No