Tim Datblygu Chwarae Bro Morgannwg - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Ein nod yw cynyddu nifer y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sy’n gallu cael mynediad at gyfleoedd chwarae o ansawdd. Cyflawnir hyn mewn dwy ffordd:
(1) Darparu gwasanaethau chwarae'n uniongyrchol trwy gyfleoedd fel cynlluniau chwarae, sesiynau Ceidwad Chwarae, sesiynau a digwyddiadau Ysgolion Fforest

(2) Hwyluso eraill i ddarparu – gallwn gynorthwyo sefydliadau ac unigolion i gynnig eu gwasanaethau eu hunain trwy helpu gyda meysydd fel hyfforddiant, mentora, datblygu perthnasau a chynnig offer.

Rydym yn gyfrifol am gynnal cynlluniau chwarae a chynlluniau glaslanciau Anabledd a ariennir gan Deuluoedd yn Gyntaf sydd ar gael yn ystod gwyliau’r haf i blant a phobl ifanc anabl. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cynnwys mynediad at ofal personol, nyrs, offer arbenigol a staff sydd â phrofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc anabl.

Yn ogystal ni sy’n arwain y broses Asesiad Digonolrwydd Chwarae ym Mro Morgannwg

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o drigolion, adrannau mewnol y Cyngor, grwpiau cymunedau lleol, ysgolion a sefydliadau cenedlaethol i gyflawni nod y gwasanaeth. O ganlyniad i'r rôl ddwbl, rydym hefyd yn cefnogi llawer o bartneriaid i gyflawni eu nodau eu hunain. Mae'r partneriaid hyn yn cynnwys:

• Defnyddwyr gwasanaeth – trigolion lleol gan gynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys teuluoedd plant anabl)
• Cynghorau Cymuned a Thref
• Grwpiau trigolion lleol
• Sefydliadau cymunedol
• Ysgolion
• Adrannau mewnol fel Cymunedau yn Gyntaf, Cymunedau Gwledig Creadigol, Adran Tai, partneriaid Bro Mwy Diogel, y tîm Digwyddiadau

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Ar hyn o bryd, mae mynediad at weithgareddau chwarae'r Tîm Datblygu Chwarae fel Ceidwaid Chwarae, digwyddiadau chwarae a chynllun chwarae mynediad agored am ddim fel arfer. Fodd bynnag, codir tâl bach am blant anabl sy’n mynychu Cynllun chwarae / Cynllun Glaslanciau sy’n aros dros amser cinio.

Ar gyfer sefydliadau sydd eisiau’r tîm i ddarparu ar eu rhan, fel arfer codir tâl am gostau cyflogi staff ac adnoddau. Bydd y gost yn dibynnu ar y gwasanaeth sy’n ofynnol.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’n dibynnu ar ba wasanaeth y maent am gael mynediad ato. Cynigir y rhan fwyaf o wasanaethau ar sail mynediad agored. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael, rhaid cadw lleoedd ar gyfer cynlluniau chwarae a chynlluniau glaslanciau o flaen llaw. Gall rhieni / gwarcheidwaid ofyn am le neu derbynnir atgyfeiriadau gan bartneriaid fel Cydlynydd Mynegai Anabledd, Tîm Iechyd ac Anableddau Plant a’r Ymwelydd Iechyd Arbenigol

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Saesneg yn unig

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. All of our community play provision is inclusive.

    Our Family First Holiday Club specifically offers play opportunities for children and young people with disabilities whilst having their individual needs catered for. As part of this scheme we are usually able to offer services such as 1:1 support, nurse support, personal care and specialist sensory equipment.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Cyngor Bro Morgannwg
Alps Depot
Gwenfo
CF62 9BG



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

8:30am - 5pm Dydd Llun-Dydd Iau
8:30am - 4:30pm Dydd Gwenner