Cymunedau ar gyfer Gwaith a Mwy Bro Morgannwg - Addysg Gymunedol


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect gwirfoddol, lle gallwn gynnig help, cefnogaeth ac arweiniad 1-2-1 ar chwilio am swyddi, CV, ffurflenni cais, sgiliau cyfweld a hyfforddiant. I fod yn gymwys mae'n rhaid i chi fod yn byw ym Mro Morgannwg, yn 20+ oed ac nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Gallwn gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i'ch helpu i gael cyflogaeth gynaliadwy. Rydym yn cynnig cymorth a chyllid ar gyfer gofal plant i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Unrhyw un 20+ oed sy'n byw ym Mro Morgannwg ac nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni'n uniongyrchol neu gallwch siarad â'ch anogwr gwaith Credyd Cynhwysol




 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Enterprise Centre
Skomer Road
Barry
CF62 9DA



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am tan 5pm