Dechrau'n Deg Ceredigion - Helpu Fi, i Helpu Ti - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Helpu Fi i Helpu Ti yn Rhaglen 6 wythnos ar ffurf sesiynau dwy awr yr wythnos. Fe'i hwylusir gan ddau aelod o staff hyfforddedig. Mae'n gwrs rheoli hunangymorth, sy'n canolbwyntio ar nodau bychain sydd o fewn cyrraedd, a bennir bob wythnos gan rieni. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys darganfod datrysiadau i broblemau a nodir gan rieni a'u rhannu yn gamau bychain cyraeddadwy. Mae'r materion a drafodir yn cynnwys bwyta'n iach, yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn na allwn ei reoli, derbyn yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud. Byddwn yn archwilio rhai sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn dysgu sut i fod yn y foment er mwyn tynnu ein meddwl ac i fod yn y presennol.

#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Cynigir y cwrs hwn i bob rhiant.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Anyone can contact us directly.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Monday - Friday: 9-5pm