Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae gan y gwasanaeth rhanbarthol dîm diogelu ac ymchwilio pwrpasol sy'n gweithio i amddiffyn trigolion bregus rhag camdriniaeth ariannol sy'n ymwneud â sgamiau marchnata torfol, trosedd stepen drws a masnachu annheg/twyllodrus ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rydym yn ymateb i gwynion ac yn ymchwilio iddynt ac yn ymateb yn gyflym i ddioddefwyr a hefyd yn rhoi cyngor, cymorth ac addysg.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithredu'r swyddogaethau safonau masnach traddodiadol; arolygu busnesau am gydymffurfio, darparu cyngor busnes sicr ac ymchwilio i gwynion defnyddwyr.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Unrhywun

Sylwer nad oes gwasanaeth galw heibio mwyach ar gyfer cyngor i ddefnyddwyr. Darperir cyngor i ddefnyddwyr gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 (Cymraeg)

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un ein defnyddio neu gael ei atgyfeirio gan asiantaeth arall

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Vale of Glamorgan Council
Civic Offices
Barry
CF63 4RU



Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Oriau Agor y Swyddfa

Llun - Iau: 8.30yb – 5.00yp
Dydd Gwener: 8.30yb - 4.30 yp
Penwythnosau: Ar gau