Barnardo's Gofalwyr Ifanc Casnewydd: Casnewydd - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed sy'n cefnogi rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, salwch, anabledd corfforol, camddefnyddio cyffuriau/alcohol neu’n darparu gofal i frawd neu chwaer neu aelod arall o’r teulu. Maen nhw’n cael eu hannog a’u cefnogi i gyflawni eu potensial, drwy gael mynediad at hyfforddiant, addysg, gweithgareddau diwylliannol a hamdden, i gael bywyd y tu hwnt i’w dyletswyddau gofalu.
Rydym ni’n darparu cymorth un i un, gwaith grŵp ymhlith cyfoedion, gweithdai ar faterion penodol, gweithgareddau, tripiau a gwyliau preswyl i gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol pobl ifanc. Gellir cynnig pob opsiwn ar-lein.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed sy'n cefnogi rhywun ag anawsterau iechyd meddwl, salwch, anabledd corfforol, camddefnyddio cyffuriau/alcohol neu’n darparu gofal i frawd neu chwaer neu aelod arall o’r teulu.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gellir atgyfeirio’n uniongyrchol i'r gwasanaeth drwy BarnardosNewportServices@barnardos.org.uk neu drwy Banel SPACE Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghasnewydd (families.1st@newport.gov.uk)

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Saesneg yn unig

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes