PentrePeryglon - Talacre - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae PentrePeryglon yn elusen annibynnol ac yn ganolfan gweithgareddau sgiliau bywyd i addysgu pobl am sut i osgoi peryglon, damweiniau ac anafiadau, a’u helpu i fod yn ddiogel. Mae'n safle addysgu ac ymweld pwrpasol gyda chyfres o senarios diogelwch cyffrous, rhyngweithiol a realistig yn canolbwyntio ar amgylchedd critigol lle mae diogelwch yn holl bwysig. Gall ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch yn y cartref, ar y ffyrdd, y traeth a’r rhyngrwyd a llawer mwy.
Nod PentrePeryglon yw rhoi'r sgiliau bywyd, ymddygiad a gwybodaeth i blant, pobl ifanc ac aelodau diamddiffyn eraill y gymuned i fod yn ddiogel, i osgoi unrhyw beryglon diangen ac i fwynhau bywydau iach. Mae PentrePeryglon hefyd ar agor yn ystod gwyliau'r ysgol ar gyfer Ymchwil y Ditectif Peryglon a Helfa Drysor yn ogystal â digwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - Cysylltwch am fanylion

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Granary Court Business Park
Ffordd yr Orsaf
TALACRE
CH8 9RL

 Gallwch ymweld â ni yma:

Granary Court Business Park
Station Road
TALACRE
CH8 9RL



Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

10.00am - 4.00pm gan gynnwys gwyliau ysgol. Ar gau gwyliau banc Mae archebu lle yn hanfodol.